Carers at Cwmaman Surgery

A ydych yn ofalwr? A ydych yn gofalu am rywun?

A ydych yn ofalwr?

“Mae gofalwr yn rhywun sy'n darparu help a chymorth di-dâl i berthynas, ffrind neu gymydog na fyddai'n gallu ymdopi ar ei ben ei hun o ganlyniad i salwch, anabledd, eiddilwch, nam corfforol, salwch meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.”

Does this sound like you? If so, you are a Carer.  We are interested in identifying Carers, especially those people who may be caring without help or support.  We know that Carers are often “hidden” looking after a family member or helping a friend or neighbour with day to day tasks and may not see themselves as a Carer.

Teimlwn fod gofalu am rywun yn rôl bwysig a gwerthfawr yn y gymuned, a'i bod yn aml yn swydd bedair awr ar hugain a all fod yn heriol iawn ac yn brofiad ynysig i'r gofalwr. Credwn ymhellach y dylai gofalwyr gael cymorth priodol ar ffurf mynediad at wybodaeth gywir am amrywiaeth o bynciau, megis yr hawl i gael budd-daliadau a gofal seibiant ac, yn anad dim, clust i wrando pan fydd pethau'n mynd yn ormod.

Pam y mae Gofalwyr Di-dâl yn Hanfodol?

Mae gofalwyr di-dâl yn darparu 97% o'r gofal yn y gymuned ac yn arbed dros £8.1 biliwn i'r GIG yng Nghymru bob blwyddyn. Mae Meddygfa St Thomas yn cydnabod bod gofalwyr yn cyfrannu at arbediad sylweddol i'r GIG trwy ofalu am berthnasoedd, cymdogion neu ffrindiau a fyddai efallai'n gorfod cael gofal hirdymor fel arall. Gall gofalwyr ifanc dan 18 oed fod yn arbennig o agored i niwed oherwydd eu diffyg profiad a'u diffyg sgiliau bywyd. Gall gofalwyr sy'n oedolion ifanc, rhwng 18 a 25 oed, fod ymhlith y grŵp mwyaf cudd o ofalwyr yn ein cymdeithas. Felly, rydym yn ymrwymedig i ddarparu cymorth ac ystyriaeth briodol i'n cleifion sy'n ofalwyr, beth bynnag fo'u hoedran.

Pam y Dylech Gofrestru'n Ofalwr?

Gall cofrestru'n ofalwr helpu eich tîm gofal iechyd i wneud y canlynol:

  • deall eich cyfrifoldebau gofal
  • eich cyfeirio at wybodaeth, help a chymorth, naill ai 'nawr neu yn y dyfodol
  • rhannu gwybodaeth am y sawl yr ydych yn gofalu amdano (gyda'r cydsyniad ysgrifenedig priodol)
  • cynnig apwyntiadau mwy hyblyg sy'n adlewyrchu eich rôl ofalu
  • cynnig brechiad blynyddol i chi rhag y ffliw (yn rhad ac am ddim).
  • eich atgyfeirio at wasanaethau neu sefydliadau eraill a allai eich helpu, o bosibl.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

What is A Carers Assessment?

A chithau'n ofalwr, mae gennych hawl i gael Asesiad o Anghenion Gofalwyr gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hwn yn gyfle i siarad am eich anghenion yn y rôl o fod yn ofalwr, yn ogystal â'r ffyrdd posibl y gellir rhoi help i chi. Mae hefyd yn ystyried anghenion y sawl yr ydych yn gofalu amdano. Gallai hyn gael ei wneud ar wahân, neu ar y cyd, yn dibynnu ar y sefyllfa. Ni chodir tâl am yr asesiad. Mae gan bob gofalwr hawl i asesiad; fodd bynnag, nid yw'n asesiad o'ch gallu i ddarparu gofal. Pan fyddwch yn cofrestru yn ofalwr gyda ni, bydd y feddygfa yn cynnig cyfle i chi gael eich atgyfeirio.

Living In A Care Home In Wales

Gwybodaeth i Ofalwyr

Gwybodaeth a Chymorth Ychwanegol

Mae gennym hysbysfwrdd wedi'i neilltuo ar gyfer gofalwyr yn yr ystafell aros, sy'n cynnwys llawer o wybodaeth a newyddion am ddigwyddiadau lleol. Gellir hefyd ddod o hyd i wybodaeth yn

cy