Hunanatgyfeirio

Beth yw hunanatgyfeirio?

Mae'r GIG yn cynnig gwasanaeth hunanatgyfeirio ar gyfer rhai meysydd iechyd a llesiant. Mae hyn yn golygu y gallwch drefnu i gwrdd ag arbenigwr heb orfod gweld meddyg gyntaf. 

Mae'r gwasanaeth hwn yn arbennig o addas i bobl sydd â chyflyrau cymharol syml megis poen yn y cymalau, straen a/neu anafiadau eraill. Mae hefyd yn dal yn bosibl i unigolion hunanatgyfeirio os oes arnynt angen gwasanaethau seicolegol i drin iselder ysgafn, er enghraifft.

Os oes gennych anghenion mwy cymhleth, ewch i weld eich meddyg gyntaf.

Hunanatgyfeirio at Gwnsela

You don’t have to have a diagnosis of a mental health issue in order to self-refer to the NHS psychological service.

You can self-refer if you have encountered any of the following:

    • pyliau o banig
    • trafferth gydag ôl-fflachiau neu hunllefau
    • teimlo'n isel ac yn anobeithiol
    • ei chael yn anodd ymdopi â gwaith neu berthnasoedd
    • profedigaeth
    • meddyliau neu ymddygiadau obsesiynol
    • ofni sefyllfaoedd cymdeithasol
    • poeni o hyd ac o hyd am eich iechyd
    • ffobiâu

Os oes arnoch angen cymorth brys, cysylltwch â'r Samariaid ar 116 123 neu anfonwch neges e-bost at jo@samaritans.org.

Os ydych wedi cael profedigaeth sy'n effeithio ar eich llesiant emosiynol, corfforol neu gymdeithasol, cysylltwch â Cruse Bereavement Care on 0808 808 1677a dewis

Gallech hefyd gysylltu â'r Llinell Wrando a Chyngor Cymunedol (CALL) ar 0800 132 737 sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i unrhyw un sy'n pryderu am ei iechyd meddwl ei hun neu iechyd meddwl rhywun arall.

 

Gwasanaeth Hunanatgyfeirio Podiatreg

Mae'r gwasanaeth hunanatgyfeirio podiatreg ar gael i bawb sydd ag anghenion podiatreg/meddygol o ran y coesau. 

Yn ystod eich apwyntiad, asesir eich angen a chynigir cyngor a thriniaeth i chi er mwyn cynnal a gwella ansawdd eich bywyd. Anogir ffordd egnïol o fyw yn ogystal, i sicrhau bod eich traed yn gweithredu mewn ffordd normal, a hynny heb unrhyw anghysur. Bydd rhai triniaethau'n cael eu rhoi yn y feddygfa ei hun hyd yn oed.

Cwm Morgannwg Podiatry Self-Referral Form

Hunanatgyfeirio at Ffisiotherapi

Mae ffisiotherapi yn helpu i adfer symudiad a gweithrediad pan fydd anaf, salwch neu anabledd yn effeithio ar rywun. Gall hefyd helpu i leihau eich risg o gael anaf neu salwch yn y dyfodol.

Mae'n ymdrin yn benodol â phoen yn y cefn, y gwddf a'r ysgwyddau, yn ogystal ag anafiadau chwaraeon. Fe'ch anogir i hunanatgyfeirio yn yr achos hwn. Fodd bynnag, os yw eich symudiadau'n gyfyngedig o ganlyniad i strôc, MS, clefyd Parkinson, trawiad ar y galon, ffeibrosis systig neu unrhyw salwch cymhleth arall, ewch i weld eich meddyg teulu gyntaf.

Os hoffech hunanatgyfeirio, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen berthnasol isod:

Cwm Morgannwg Physiotherapy Self-Referral Form

MSK Self-Referral
QR Code to Self-Refer for MSK Physiotherapy
cy