Cwestiynau Cyffredin
If you require a home visit wherever possible you should make the request between, 09.00 hrs and 10.30 a.m. The receptionist will ask for details of your medical condition. This information will then be given to the Doctor.
Home Visits are only available for patients who have a Medical or Physical Disability.
If you can, try and come to the surgery where better facilities are available.
One home visit takes the time of at least 5 surgery appointments, so we do ask that patients try to come into the surgery if at all possible.
Mae rhifau ffôn a allai eich helpu i gael rhagor o wybodaeth am eich apwyntiad cleifion allanol i'w gweld isod:
Royal Glamorgan Hospital: 01443 443 290
Prince Charles Hospital: 01685 721 721
Ysbyty Cwm Rhondda: 01443 430 022
Ysbyty Cwm Cynon: 01685 721 721
Dylai cleifion sy'n ffonio i gael canlyniadau alw 01685 873002 after 10:30 a.m.
O bryd i'w gilydd, efallai y byddwch am gael cyngor ar broblem iechyd neu feddyginiaeth.
Gallwch adael neges ar gyfer y meddygon gyda'r derbynnydd. Ni fydd y meddyg yn gallu siarad â chi yn ystod ei feddygfa gan y bydd hynny'n tarfu ar ymgynghoriad â chlaf arall. Os bydd y meddyg yn teimlo y dylid eich ffonio, efallai y bydd yn eich ffonio 'nôl neu'n gadael neges gyda'r derbynnydd.
Bydd eich cyswllt cyntaf ag un o'n derbynyddion, sy'n ymdrechu i fod yn gwrtais bob amser. Byddwch cystal â bod yn gwrtais yn eich tro gan y gall eu swydd fod yn un anodd iawn. Gofynnir, gyda pharch, am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.
Mae'r practis hwn yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd diogel a chyfforddus ar gyfer staff a chleifion. Os hoffech gael hebryngwr yn bresennol yn ystod eich ymgynghoriad, dywedwch wrth eich meddyg. Nyrs y feddygfa neu gynorthwyydd gofal iechyd fydd eich hebryngwr fel arfer, ond, ar adegau prin, efallai y gofynnir i dderbynnydd ymgymryd â'r rôl.
Self-Referral forms for physiotherapy and podiatry can be seen on the links provided.
Ein nod yw rhoi gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol i'n holl gleifion. Fodd bynnag, os bydd gennych unrhyw bryderon ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, rhowch wybod i ni. Siaradwch â phwy bynnag yr ydych fwyaf cyfforddus yn siarad ag ef/hi – eich meddyg teulu, rheolwr y feddygfa – bydd yn hapus i'ch helpu. Yn y mwyafrif o achosion, gellir datrys pryderon yn gyflym ac yn hawdd.
Rydym yn gwneud pob ymdrech i roi'r gwasanaeth gorau posibl i bawb sy'n dod i'n meddygfa.
Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y gall pethau fynd o chwith, gan beri i glaf deimlo bod ganddo achos gwirioneddol i fynegi pryder. Os dyma'r achos, byddem yn dymuno i'r mater gael ei ddatrys mewn modd mor gyflym a chyfeillgar â phosibl.
I fynd ar drywydd pryder, cysylltwch â rheolwr y feddygfa, a fydd yn delio â'ch pryderon mewn modd priodol. Mae rhagor o wybodaeth ysgrifenedig am ein gweithdrefn pryderon ar gael gan y dderbynfa.